kywydd y vronvreith
1 Y keiliog serchog i son
2 bronvraith ddilediaith loywdon
3 dec loywieith doe a glyweis
4 dawn vat lonn dann vedw i lais
5 by ryw ddim a vei berach
6 blethiad i chwibaniat bach
7 pylgein y darllein deirllith
8 plu yw i gassul yn plith
9 pell y klywir vwch tiroedd
10 i lef oi lwyn ai loyw vloedd
11 proffwyd rriw praff awdur hoet
12 penkerdd gloyw angerdd glyngoet
13 pob lleis diwael yn ael nant
14 a gan ef oi gv nwyfant
15 pob kaniat mat mydr angerdd
16 pob kaink or organ pob kerdd
17 pob kwlm addvwyn er mwyn merch
18 ymryson am oreuserch
19 pregethwr a llywiwr llen
20 per ewybr pur i awen
21 [6r] prydydd kerdd ovydd ddivai
22 prif vrddas prim y mas mai
23 adwen ef oi vedw nwyfoet
24 awdur kerdd adar y koet
25 adleis lonn o dlos lannerch
26 odlev a messurav serch
27 edn diddan a gan ar gyll
28 ynglwysgoet angel esgyll
29 odit ydoedd i adar
30 paradwys kyfrwys ai kar
31 o dro iowngof drwy angerdd
32 adrodd a ganodd o gerdd
dd' ap gwilym ai kant
Darlleniadau Amrywiol
Exr per alium
5 ba
6 nai
22 yw primas